Pa LARC?
Dull Atal Cenhedlu Gwrthdroadwy Hirdymor (LARC)
Mae rhai dulliau atal cenhedlu nad oes rhaid i chi eu cymryd bob dydd, neu bob tro rydych yn cael rhyw. Mae’r dull atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor, unwaith y bydd yn ei le, yn effeithiol am fisoedd neu flynyddoedd.
Mae 99% yn sicr o atal beichiogrwydd, felly mae’n fwy effeithiol nag unrhyw ddull atal cenhedlu arall.
Mewnblaniad
Rhoddir rhoden fach, hyblyg o dan y croen yn rhan uchaf eich braich. Mae’n rhyddhau’r hormon progestogen. Mae’n atal ofwliad (rhyddhau wy), yn tewychu mwcws gwddf y groth i atal sberm rhag cyrraedd wy, ac yn teneuo leinin y groth i atal wy wedi’i ffrwythloni rhag mewnblannu yn y groth. Mae’n gweithio am hyd at dair blynedd.
Effeithiolrwydd: Dros 99% yn sicr o atal beichiogrwydd – un o’r dulliau mwyaf effeithiol.
Gosod ac anghofio: Ar ôl i chi gael un, does dim angen i chi gofio cymryd pilsen neu ddefnyddio dull atal cenhedlu arall am 3 blynedd.
Mislif: Gall eich mislif fod yn afreolaidd, gall stopio neu gall bara am fwy o amser. Gallai’r dull hwn helpu â mislif trwm, poenus.
Amddiffyn rhag heintiau STIs: Nac ydy. Defnyddiwch gondomau allanol neu gondomau mewnol i helpu i amddiffyn eich hun rhag STIs.
Gwrandewch ar brofiad Rhian o gael mewnblaniad (Saesneg):
Dyfais fewngroth gopr (IUCD)
Gosodir dyfais fach o blastig a chopr yn y groth. Enw arall ar y ddyfais yw’r ‘coil’ neu’r ‘coil copr’. Mae’r copr yn atal sberm rhag goroesi, ac mae’n addasu mwcws gwddf y groth i atal sberm rhag cyrraedd wy. Gall IUCD hefyd atal wy wedi’i ffrwythloni rhag mewnblannu yn y groth.
Mae gwahanol fathau o IUCDs, i siwtio gwahanol fenywod. Gall IUCD aros i mewn am 5-10 mlynedd, gan ddibynnu ar y math o ddyfais. Mae’n bosibl gadael rhai mathau o IUCDs tan y menopos os ydynt yn cael eu gosod mewn menywod dros 40 oed.
Er mwyn cael IUCD rhaid i chi gael clinigydd sydd wedi cael ei hyfforddi’n arbenigol i osod y ddyfais i chi, fel arfer doctor neu nyrs. Bydd yn ofynnol i chi gael swab i brofi am Glamydia a Gonorea. Mae hyn oherwydd os oes unrhyw heintiau’n bresennol, gallant achosi cymhlethdodau yn y driniaeth hon, a chynyddu eich risg o gael unrhyw broblemau wedi gosod yr IUCD. Bydd yn ofynnol i chi gael y prawf hwn waeth beth yw eich hanes rhywiol; mae’r rhan hon o’r driniaeth yn arferol.
Os ydych wedi cael cais i gwblhau’r swab hwn cyn eich apwyntiad i osod IUCD, gweler yma. lle gallwch greu cyfrif newydd, neu ddefnyddio eich cyfrif presennol i archebu eich swab gwain Clamydia neu Gonorea. Hefyd gallwch archebu unrhyw brofion ychwanegol sy’n addas i’ch anghenion.
Am wybodaeth ar sut i gael y driniaeth hon yn eich ardal chi cysylltwch â’ch clinig iechyd rhywiol lleol. Gellir dod o hyd i’r manylion yma (Saesneg). Neu gallwch ofyn ym mhractis eich meddyg teulu.
Effeithiolrwydd: Dros 99% yn sicr o atal beichiogrwydd – un o’r dulliau mwyaf effeithiol.
Gosod ac anghofio: Ar ôl i chi gael un, does dim angen i chi gofio cymryd pilsen neu ddefnyddio ddull atal cenhedlu arall am o leiaf 5 mlynedd.
Mislif: Gall fod yn drymach, yn para am fwy o amser neu’n fwy poenus. Gallai hyn wella ar ôl ychydig fisoedd.
Amddiffyn rhag STIs: Nac ydy. Defnyddiwch gondomau allanol neu gondomau mewnol i helpu i amddiffyn eich hun rhag STIs.
Gwrandewch ar brofiad o gael IUCD (Saesneg):
System fewngroth (IUS)
Gosodir dyfais fach blastig siâp T yn y groth. Mae’r ddyfais hon yn rhyddhau’r hormon progestogen, sy’n teneuo leinin y groth i atal wy wedi’i ffrwythloni rhag mewnblannu yn y groth, ac yn tewychu mwcws gwddf y groth i atal sberm rhag cyrraedd wy. Gall bara am hyd at 5 mlynedd ond gellir ei thynnu unrhyw bryd.
Er mwyn cael IUS rhaid i chi gael clinigydd sydd wedi cael ei hyfforddi’n arbenigol i osod y ddyfais i chi, fel arfer doctor neu nyrs. Bydd yn ofynnol i chi gael swab i brofi am Glamydia a Gonorea. Mae hyn oherwydd os oes unrhyw heintiau’n bresennol, gallant achosi cymhlethdodau yn y driniaeth hon, a chynyddu eich risg o gael unrhyw broblemau wedi gosod yr IUS. Bydd yn ofynnol i chi gael y prawf hwn waeth beth yw eich hanes rhywiol; mae’r rhan hon o’r driniaeth yn arferol.
Os ydych wedi cael cais i gwblhau’r swab hwn cyn eich apwyntiad i osod IUS, gweler yma. lle gallwch greu cyfrif newydd, neu ddefnyddio eich cyfrif presennol i archebu eich swab gwain Clamydia neu Gonorea. Hefyd gallwch archebu unrhyw brofion ychwanegol sy’n addas i’ch anghenion.
Am wybodaeth ar sut i gael y driniaeth hon yn eich ardal chi cysylltwch â’ch clinig iechyd rhywiol lleol. Gellir dod o hyd i’r manylion yma (Saesneg). Neu gallwch ofyn ym mhractis eich meddyg teulu.
Effeithiolrwydd: Dros 99% yn sicr o atal beichiogrwydd – un o’r dulliau mwyaf effeithiol.
Gosod ac anghofio: Ar ôl i chi gael un, does dim angen i chi gofio cymryd pilsen neu ddefnyddio dull atal cenhedlu arall. Gall yr IUS weithio am 3, 4 neu 5 mlynedd, gan ddibynnu pa fath rydych yn ei gael.
Mislif: Gall fod yn ysgafnach, yn fyrrach neu’n llai poenus. Gall stopio neu fod yn afreolaidd.
Amddiffyn rhag STIs: Nac ydy. Defnyddiwch gondomau allanol neu gondomau mewnol i helpu i amddiffyn eich hun rhag STIs.
Gwrandewch ar brofiad o gael IUS (Saesneg):
Pigiad atal cenhedlu
Mae pigiad atal cenhedlu’n rhyddhau’r hormon progestogen sy’n atal ofwliad (rhyddhau wy), yn tewychu mwcws gwddf y groth i atal sberm rhag cyrraedd wy, ac yn teneuo leinin y groth i atal wy wedi’i ffrwythloni rhag mewnblannu yn y groth.
Ni ellir tynnu’r chwistrelliad o’r corff, felly gallai unrhyw sgil effeithiau barhau cyhyd ag y mae’n gweithio ac am beth amser ar ôl hynny.
Mae tri math o bigiad atal cenhedlu – Depo-Provera, sy’n eich amddiffyn rhag beichiogi am 12 wythnos, y Notisterat, sy’n eich amddiffyn am wyth wythnos, a’r Sayana Press sy’n eich amddiffyn am 12 wythnos.
Bydd y Depo-Provera a’r Notisterate yn cael ei roi i chi gan feddyg neu nyrs, ond byddwch yn cael eich dysgu i roi’r Sayana Press eich hun.
Effeithiolrwydd: Mae’r pigiad yn effeithiol iawn pan mae’n cael ei ddefnyddio’n berffaith. Mae 99% yn sicr o atal beichiogrwydd â defnydd perffaith a 94% â defnydd nodweddiadol.
Gosod ac anghofio: Ar ôl i chi gael pigiad, does dim angen i chi gofio cymryd pilsen neu ddefnyddio dull atal cenhedlu arall am 3 mis (ac eithrio defnyddwyr Noristerat – bydd angen i chi gael pigiad arall ar ôl 8 wythnos). Ond cofiwch gael eich pigiad nesaf mewn pryd.
Mislif: Mae eich mislif yn debygol o newid. Gall stopio’n gyfan gwbl, neu fod yn ysgafnach, neu’n afreolaidd, neu’n drymach, neu gallai bara am fwy o amser.
Amddiffyn rhag STIs: Nac ydy. Defnyddiwch gondomau allanol neu gondomau mewnol i helpu i amddiffyn eich hun rhag STIs.
Gwrandewch ar brofiad o gael PIGIAD (Saesneg):

