Dull Atal Cenhedlu Wythnosol
Clwt atal cenhedlu
Clwt bach tenau, brown golau, bron i 5cm x 5cm o faint yw’r clwt atal cenhedlu. Rydych yn ei ludo ar eich croen ac mae’n rhyddhau dau hormon – estrogen a progestogen. Mae’r rhain yn debyg i’r hormonau naturiol a gynhyrchir gan yr ofarïau ac maent fel y rhai hynny a ddefnyddir yn y bilsen gyfun.
Effeithiolrwydd: Mae’r clwt yn effeithiol iawn pan gaiff ei ddefnyddio’n berffaith. Mae 99% yn sicr o atal beichiogrwydd â defnydd perffaith a 91% yn sicr â defnydd nodweddiadol.
Cofio’n rheolaidd: Rhaid i chi newid y clwt unwaith yr wythnos.
Mislif: Gan ddibynnu sut rydych yn defnyddio’r clwt, gall wneud eich mislif yn fwy rheolaidd, yn ysgafnach ac yn llai poenus, neu gallai eich mislif stopio’n gyfan gwbl. Gallai hefyd helpu â symptomau cyn mislif.
Amddiffyn rhag STIs: Nac ydy. Defnyddiwch gondomau allanol neu gondomau mewnol i helpu i amddiffyn eich hun rhag STIs.

