Dull Atal Cenhedlu Dyddiol
Y bilsen gyfun (COC)
Fel arfer rydym yn cyfeirio at y bilsen gyfun fel ‘y bilsen’. Mae’n cynnwys dau hormon – estrogen a progestogen. Mae’r rhain yn debyg i’r hormonau naturiol a gynhyrchir gan yr ofarïau. Mae gwahanol fathau o bils cyfun a gwahanol ffyrdd o’u cymryd.
Effeithiolrwydd: Mae’r bilsen yn effeithiol iawn pan gaiff ei defnyddio’n berffaith. Mae 99% yn sicr o atal beichiogrwydd â defnydd perffaith a 91% yn sicr â defnydd nodweddiadol.
Cofio’n rheolaidd: Rhaid i chi gymryd y bilsen bob diwrnod, tua’r un adeg.
Mislif: Gan ddibynnu sut rydych yn cymryd y bilsen gyfun, gall wneud eich mislif yn fwy rheolaidd, yn ysgafnach ac yn llai poenus, neu gallai eich mislif stopio’n gyfan gwbl. Gallai helpu hefyd â symptomau cyn mislif.
Amddiffyn rhag STIs: Nac ydy. Defnyddiwch gondomau allanol neu gondomau mewnol i helpu i amddiffyn eich hun rhag STIs.
Pilsen progestogen yn unig (POP)
Mae pils progestogen yn unig (POPs) yn cynnwys hormon progestogen. Mae hwn yn debyg i’r progesteron naturiol a gynhyrchir gan yr ofarïau. Mae POPs yn wahanol i bils cyfun gan nad ydynt yn cynnwys yr hormon estrogen.
Effeithiolrwydd: Mae’r POP yn effeithiol iawn pan gaiff ei defnyddio’n berffaith. Mae 99% yn sicr o atal beichiogrwydd â defnydd perffaith a 91% yn sicr â defnydd nodweddiadol.
Cofio’n rheolaidd: Rhaid i chi gymryd y bilsen bob diwrnod, yr un adeg.
Mislif: Gall fod yn afreolaidd, gall stopio neu gall bara am fwy o amser. Gallai’r POP helpu â mislif trwm, poenus.
Amddiffyn rhag STIs: Nac ydy. Defnyddiwch gondomau allanol neu gondomau mewnol i helpu i amddiffyn eich hun rhag STIs.

