Byddwn yn symud i wefan newydd yn fuan, a phan fydd hyn yn digwydd byddwch chi’n cael eich ailgyfeirio’n awtomatig. Bydd y wefan newydd yn edrych yn wahanol, ond peidiwch â phoeni – bydd y gwasanaeth Profi a Phostio yn dal i fod ar gael fel arfer.

Mae’r diweddariad hwn yn helpu i ddod â gwybodaeth iechyd ddibynadwy at ei gilydd mewn un lle. Diolch am eich dealltwriaeth.

Os hoffech gael cip ymlaen llaw, gallwch ymweld â’r wefan newydd yma: https://beta-icc.gig.cymru/pwnc/iechyd-rhywiol-ac-atgenhedlol/

Atal Cenhedlu Brys

Pa Atal Cenhedlu Brys?

Atal cenhedlu brys

Gall dulliau atal cenhedlu brys atal beichiogrwydd ar ôl rhyw heb ddiogelwch neu os yw eich dull atal cenhedlu wedi methu – er enghraifft, os yw condom wedi rhwygo neu os ydych wedi anghofio cymryd pilsen.

Mae dau fath:

  • PILSEN ATAL CENHEDLU BRYS – Levonelle neu ellaOne (sydd weithiau’n cael ei galw’n bilsen bore wedyn) Mae angen i chi gymryd y bilsen atal cenhedlu brys cyn pen 3 diwrnod (Levonelle) neu 5 diwrnod (ellaOne) ar ôl rhyw heb ddiogelwch iddi fod yn effeithiol – gorau po gyntaf y byddwch yn ei chymryd, er mwyn iddi fod yn fwy effeithiol.
  • Dyfais IUCD (dyfais fewngroth, neu’r coil) Gellir gosod y ddyfais IUCD hyd at 5 diwrnod ar ôl rhyw heb ddiogelwch, neu hyd at 5 diwrnod ar ôl yr amser cynharaf y gallech fod wedi ofylu (rhyddhau wy o’r ofari), iddi fod yn effeithiol

Mae’r IUCD yn fwy effeithiol na’r bilsen atal cenhedlu er mwyn atal beichiogrwydd – mae llai nag 1% o’r menywod sy’n defnyddio’r IUCD yn beichiogi.

I ddod o hyd i’ch darparwr gwasanaeth iechyd rhywiol lleol:
GIG 111 Cymru – Canlyniadau (wales.nhs.uk)

Opsiynau eraill ar gyfer cyrchu dulliau atal cenhedlu brys yw fferyllfeydd cymunedol – gwiriwch gyda’r fferyllfa cyn mynychu gan fod angen fferyllydd hyfforddedig ar ddyletswydd i ddarparu dulliau atal cenhedlu brys a byddant yn gallu cynghori:

GIG 111 Cymru – Canlyniadau (wales.nhs.uk)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
Atal Cenhedlu Brys – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
Sir y Fflint a Wrecsam – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Siroedd Conwy a Dinbych – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Gwynedd ac Ynys Môn – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
Emergency contraception – Cardiff and Vale University Health Board (nhs.wales) (Saesneg)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Integredig – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
Meddyginiaeth atal cenhedlu brys (pilsen y bore wedyn) – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
Iechyd Rhywiol – Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
Gwasanaethau Iechyd Rhywiol – Bwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe (gig.cymru)